Gweithdy Proffesiynol a ddarperir gan dîm Menter Prifysgol Wrecsam.
Dyddiad: 20 Chwefror 2025
Amser: 9.30yb - 4.00yp
Arweinir gan: Carrie Foster
Lleoliad: Campws Plas Coch, Prifysgol Wrecsam, LL11 2AW
Côst: £150 y person. Mwy o wybodaeth ynglŷn a chostau a'r cyllid sydd ar gael
Mewn amgylchedd busnes sy'n esblygu'n gyflym heddiw, mae'r gallu i arwain yn strategol yn bwysicach nag erioed. Mae'r gweithdy hwn yn adeiladu ar y mewnwelediadau a gafwyd o'n digwyddiad "Sbarduno Arweinyddiaeth 2025", gan fynd yn ddyfnach i agweddau ymarferol ar arweinyddiaeth strategol. Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i wella eu meddwl strategol, neilltuo lle ar gyfer cynllunio tymor hir, ac ymgorffori arferion arweinyddiaeth ystwyth sy'n hybu gwneud penderfyniadau wedi'u datganoli a chynllunio strategol sy'n seiliedig ar ddata.
Drwy sesiynau rhyngweithiol ac ymarferion ymarferol, byddwn yn archwilio sut i lywio’r ansicrwydd drwy wella gweledigaeth tymor hir, gwneud penderfyniadau strategol, a chynyddu addasrwydd i amodau’r farchnad sy’n newid. Mae'r gweithdy hwn wedi'i gynllunio i rymuso arweinwyr i gamu i'r adwy, wynebu heriau'n uniongyrchol, a datblygu'r weledigaeth i feddwl a gweithredu'n strategol, gan ddod â galluoedd arweinyddiaeth newydd i'w busnesau.
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio'r celfyddyd a'r wyddoniaeth o arweinyddiaeth strategol, gan eich grymuso i osod cwrs drwy'r ansicrwydd a harwain eich sefydliad i uchelfannau newydd o lwyddiant.
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr wedi:
1. Datblygu ac wedi cymhwyso fframwaith ar gyfer meddwl strategol, gan ddangos y gallu i neilltuo amser a lle ar gyfer cynllunio tymor hir o fewn eu sefydliadau.
2. Archwilio technegau ar gyfer gweithredu arferion arweinyddiaeth ystwyth, gan ddangos sgiliau gwell mewn gwneud penderfyniadau wedi'u datganoli a chynllunio strategol sy'n seiliedig ar ddata.
3. Dylunio mecanwaith Dangosyddion Perfformiad Graddedig ar gyfer eu sefydliad, gan ddangos y gallu i atgyfnerthu diwylliant o lwyddiant mesuradwy o'r cam cynllunio busnes strategol i lawr at y lefel unigol.
4. Archwilio sut i lunio cynllun strategol ar gyfer eu sefydliad, gan ddiffinio amcanion strategol clir a meysydd ffocws sy'n gweithredu fel sylfaen ar gyfer taith strategol gynlluniedig.
5. Datblygu ac ymarfer technegau i wella cydweithredu a chyfathrebu traws-swyddogaethol, gan ddangos gallu uwch i rannu mewnwelediadau a gwybodaeth ar draws gwahanol swyddogaethau busnes.
Yn y sesiwn hwn, gall cyfranogwyr ddisgwyl:
• Datblygu Sgiliau Meddwl Strategol: Dysgu technegau i wella meddwl strategol a neilltuo amser a lle ar gyfer cynllunio tymor hir
• Meistroli Arweinyddiaeth Ystwyth: Cael mewnwelediadau i weithredu arferion arweinyddiaeth ystwyth sy'n hyrwyddo gwneud penderfyniadau wedi'u datganoli
• Gwella Cynllunio sy'n Seiliedig ar Ddata: Ennill offer ar gyfer cynnwys dulliau seiliedig ar ddata mewn prosesau cynllunio strategol
• Gwella Gweledigaeth Tymor Hir: Datblygu technegau i wella rhagwelediad a gweledigaeth strategol tymor hir
• Pennu Fframweithiau ar gyfer Penderfyniadau Strategol: Dysgu dulliau ar gyfer gwneud penderfyniadau strategol gwell mewn amgylcheddau ansicr
• Cynyddu Addasrwydd: Darganfod dulliau i gynyddu addasrwydd sefydliadol mewn ymateb i amodau’r farchnad sy’n newid
• Hybu Cydweithredu Traws-swyddogaethol: Ennill sgiliau ymarferol i wella cyfathrebu a rhannu gwybodaeth ar draws swyddogaethau busnes gwahanol
• Creu Cynlluniau Strategol: Dysgu fframwaith ar gyfer diffodd amcanion strategol a meysydd ffocws, sy'n gweithredu fel sylfaen ar gyfer taith strategol gynlluniedig
• Gweithredu Dangosyddion Perfformiad Graddedig: Deall sut i greu a defnyddio mecanwaith Dangosyddion Perfformiad Graddedig i atgyfnerthu diwylliant o lwyddiant mesuradwy ledled y sefydliad
• Meithrin Diwylliant Arweinyddiaeth Strategol: Ennill mewnwelediadau ar sut i feithrin diwylliant o feddwl ac arweinyddiaeth strategol o fewn eich sefydliad
Mae pob gweithdy yn costio £150 y person, y dydd, ac maent ar gael i bob busnes. Gweler y manylion prisio ar y dudalen archebu gweithdy unigol.
Gall sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn Wrecsam, Sir Ddinbych neu Sir y Fflint gael hyd at £1500 y cwmni mewn Talebau Sgiliau i ariannu gweithdai, diolch i Gyllid y Grofna Ffyniant Gyffredin.
Rhaid i gofrestreion ddewis pa opsiwn talu y maent yn bwriadu ei ddefnyddio pan yn archebu eu gweithdai (Talebau Sgiliau neu anfoneb).
Os nad ydych yn gyfarwydd â’r cynllun Talebau Sgiliau, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am gymhwysedd a sut i’w defnyddio i dalu, cysylltwch â [email protected]
Gwiriwch ein gwefan am weithdai eraill a allai fod o ddiddordeb i chi, neu e-bostiwch [email protected] os hoffech drafod gweithdy pwrpasol ar gyfer eich sefydliad.