Sbarduno Arweinyddiaeth 2025: Llywio’r Anhysbys

Cynhadledd Arweinyddiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru

Dyddiad: 4 Chwefror 2025

Amser: 10.00yb - 1.30yp

Arweinir gan: Carrie Foster

Lleoliad: Canolfan Technoleg OpTIC, Parc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD

Cofrestrwch

Amdan y Gynhadledd

Mae arweinwyr busnes Gogledd Cymru yn wynebu gwe gymhleth o heriau. O bwysau economaidd byd-eang i anghenion seilwaith lleol, o newid hinsawdd i fylchau sgiliau, mae ein rhanbarth ar groesffordd o newid a chyfle.

Nod y digwyddiad am ddim hon yw tanio ysbryd cydweithredol ymhlith arweinwyr busnes Gogledd Cymru, gan eu grymuso i wynebu heriau anhysbys yn uniongyrchol a manteisio ar gyfleoedd i dyfu ac arloesi yn ein cyd-destun rhanbarthol unigryw.

Trwy drafodaethau deinamig sydd wedi’u dylunio i gyflwyno meddwl beirniadol wrth ddatrys problemau, byddwn yn llunio strategaethau arloesol i lywio ein tirlun economaidd unigryw a llunio dyfodol llewyrchus i Ogledd Cymru. Trwy ddysgu oddiwrth ein gilydd ac ein siaradwraig, Carrie Foster, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i lywio tiriogaethau anhysbys arweinyddiaeth yn 2025 a thu hwnt.  

Canlyniadau'r Gynhadledd

Yn y sesiwn ddeinamig hon, bydd arweinwyr busnes lleol o Ogledd Cymru yn dod at eu gilydd i gymryd rhan mewn deialog ystyrlon, rhannu profiadau, a dysgu oddi wrth ein siaradwraig ac oddi wrth ei gilydd. Y prif ffocws fydd archwilio ffiniau anhysbys arweinyddiaeth yn ein tirwedd fusnes sy’n newid yn gyflym.

1. Ennill Safbwyntiau Amrywiol: Deall profiadau amrywiol arweinwyr ar draws sectorau gwahanol yng Ngogledd Cymru, gan gydnabod yr heriau a’r cryfderau unigryw y mae pob diwydiant yn eu cynnig.

2. Herio Rhagdybiaethau: Nodi a mynd i’r afael â rhagdybiaethau cyffredin am arweinyddiaeth yn ein rhanbarth, gan hyrwyddo dull mwy arloesol ac ymlaen-gyfeiriol at reoli busnes.

3. Gwella Arweinyddiaeth Addasol: Datblygu strategaethau ar gyfer arweinyddiaeth effeithiol mewn cyfnodau ansicr, gyda phwyslais ar hyblygrwydd a gwytnwch mewn lleoliadau personol a phroffesiynol.

4. Meithrin Empathi: Meithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r heriau sy’n wynebu gwahanol randdeiliaid yn ein hecosystem busnes, o weithwyr i aelodau’r gymuned.

5. Hyrwyddo Arweinyddiaeth Gynhwysol: Cydnabod pwysigrwydd creu amgylcheddau gwaith cynhwysol sy’n cynnwys ac yn dathlu amrywiaeth ym mhob ffurf.

6. Annog Datrys Problemau Cydweithredol: Grymuso arweinwyr i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael ag heriau rhanbarthol, fel gwella seilwaith digidol neu ddatblygu dulliau twristiaeth cynaliadwy.

7. Rhwydweithio a Chysylltu: Darparu cyfleoedd i fynychwyr ffurfio cysylltiadau ystyrlon â siaradwyr, panelwyr, ac aelodau eraill, gan feithrin cymuned fusnes gefnogol yng Ngogledd Cymru.

8. Ysbrydoli Gweithredu: Cymell mynychwyr i gymryd camau pendant tuag at weithredu arferion arweinyddiaeth arloesol yn eu sefydliadau a’u cymunedau.

9. Gwella Dealltwriaeth Broffesiynol: Darparu mewnwelediadau i dueddiadau a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg a allai effeithio ar fusnesau yng Ngogledd Cymru, gan helpu arweinwyr i baratoi ar gyfer heriau a chyfleoedd yn y dyfodol.

10. Cynhyrchu Cwestiynau Newydd: Annog chwilfrydedd parhaus am ddyfodol arweinyddiaeth, gan ysbrydoli mynychwyr i barhau i archwilio ac addasu y tu hwnt i’r gynhadledd.  

Cofrestrwch

E-bostiwch [email protected] os oes gennych unrhyw gwestiynnau am y digwyddiad hon.

Built with