Gweithdy Proffesiynol a ddarperir gan dîm Menter Prifysgol Wrecsam.
Dyddiad: 13 Chwefror 2025
Amser: 9.30yb - 4.00yp
Arweinir gan: Carrie Foster
Lleoliad: Campws Plas Coch, Prifysgol Wrecsam, LL11 2AW
Côst: £150 y person. Mwy o wybodaeth ynglŷn a chostau a'r cyllid sydd ar gael
Mewn cyfnod lle mae rheoli pobl yn hanfodol i lwyddiant sefydliadol, mae deall sylfeini AD yn hanfodol i bob rheolwr. Mae'r gweithdy dwys hwn yn cynnig trosolwg ymarferol o faterion AD, wedi'i deilwra ar gyfer y rhai sy'n newydd i gyfrifoldebau AD neu'n ystyried newid gyrfa i faes AD. Bydd cyfranogwyr yn ennill mewnwelediadau i rôl y swyddogaeth AD o fewn sefydliadau ac yn dysgu sut i reoli heriau sy'n gysylltiedig â phobl yn effeithiol.
Drwy sesiynau rhyngweithiol ac astudiaethau achos byd go iawn, byddwn yn archwilio meysydd allweddol AD megis rheoli perfformiad, cynllunio'r gweithlu, ymgysylltu â gweithwyr, a delio â materion sensitif yn y gweithle. Nod y gweithdy hwn yw grymuso rheolwyr gyda'r wybodaeth a'r offer i greu amgylcheddau gwaith perfformiad uchel, alinio arferion AD â nodau busnes, a llywio cymhlethdodau deinamig y gweithle modern.
Mae’r gweithdy hwn yn cynnig cyfle unigryw i arweinwyr busnes Gogledd Cymru wella eu gallu AD, gan feithrin rheolaeth pobl fwy effeithiol a gyrru llwyddiant sefydliadol. Trwy ganolbwyntio ar sgiliau ymarferol a mewnwelediadau gweithredadwy, bydd cyfranogwyr yn gadael gyda dealltwriaeth glir o sut i integreiddio arferion gorau AD i'w cyfrifoldebau rheoli beunyddiol.
Ymunwch â ni wrth i ni fynd i'r afael ag agweddau hanfodol ar reoli AD, gan eich grymuso i arwain gyda hyder a chreu amgylcheddau gwaith perfformiad uchel llewyrchus yn eich sefydliadau.
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr wedi:
1. Nodi rolau a chyfrifoldebau'r swyddogaeth AD ac esbonio sut mae’n cefnogi nodau a chyfeiriadau busnes o fewn eu sefydliad.
2. Datblygu sgiliau i reoli perfformiad gweithwyr yn effeithiol, gan gynnwys gosod amcanion SMART, cynnal gwerthusiadau, a darparu adborth adeiladol.
3. Archwilio sut i greu cynllun gweithlu sylfaenol sy’n cynnwys mapio gyrfaoedd, rheoli talent, a chynllunio olyniaeth i sicrhau bod y bobl iawn yn y rolau cywir.
4. Archwilio sut i ddelio â materion sensitif yn y gweithle, megis disgyblaeth, absenoldeb oherwydd salwch, a dyrysau moesegol, gan gydymffurfio ag arferion gorau AD a gofynion cyfreithiol.
5. Dylunio strategaethau i wella ymgysylltiad a chymhelliant gweithwyr, gan ystyried y contract seicolegol ac egwyddorion creu amgylchedd gwaith perfformiad uchel.
Yn y sesiwn dynaidd hwn, gall cyfranogwyr ddisgwyl:
• Deall Rôl Strategol AD: Mynegi cyfrifoldebau'r swyddogaeth AD a'i heffaith ar gyflawni nodau a chyfeiriadau busnes.
• Gwella Sgiliau Rheoli Pobl: Datblygu strategaethau ar gyfer rheoli perfformiad yn effeithiol, gan gynnwys gosod amcanion SMART a darparu adborth adeiladol.
• Creu Amgylcheddau Gwaith Perfformiad Uchel: Dysgu technegau i feithrin ymgysylltiad, cymhelliant, ac ymrwymiad gweithwyr.
• Gweithredu Cynllunio'r Gweithlu’n Effeithiol: Datblygu sgiliau mewn mapio gyrfaoedd, rheoli talent, a chynllunio olyniaeth i sicrhau bod y bobl iawn yn y rolau cywir.
• Llywio Heriau yn y Gweithle: Ennill hyder wrth ddelio â materion sensitif megis disgyblaeth, absenoldeb oherwydd salwch, a dyrysau moesegol.
• Hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: Deall gwahanol fathau o wahaniaethu a gweithredu arferion sy'n hybu gweithle cynhwysol.
• Datblygu Potensial Gweithwyr: Dysgu sut i arwain gweithwyr wrth greu cynlluniau datblygiad personol a rheoli dyheadau gyrfa.
• Alinio Arferion AD â Strategaeth Fusnes: Deall sut y gall arferion gorau AD gefnogi nodau sefydliadol a gyrru llwyddiant busnes.
• Rheoli'r Contract Seicolegol: Archwilio technegau i wella ymgysylltiad gweithwyr a rheoli disgwyliadau’n effeithiol.
• Creu Cynlluniau Gweithredu: Llunio strategaethau ymarferol i weithredu arferion gorau AD yn eich rôl a’ch sefydliad.
Mae pob gweithdy yn costio £150 y person, y dydd, ac maent ar gael i bob busnes. Gweler y manylion prisio ar y dudalen archebu gweithdy unigol.
Gall sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn Wrecsam, Sir Ddinbych neu Sir y Fflint gael hyd at £1500 y cwmni mewn Talebau Sgiliau i ariannu gweithdai, diolch i Gyllid y Grofna Ffyniant Gyffredin.
Rhaid i gofrestreion ddewis pa opsiwn talu y maent yn bwriadu ei ddefnyddio pan yn archebu eu gweithdai (Talebau Sgiliau neu anfoneb).
Os nad ydych yn gyfarwydd â’r cynllun Talebau Sgiliau, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am gymhwysedd a sut i’w defnyddio i dalu, cysylltwch â [email protected]
Gwiriwch ein gwefan am weithdai eraill a allai fod o ddiddordeb i chi, neu e-bostiwch [email protected] os hoffech drafod gweithdy pwrpasol ar gyfer eich sefydliad.