“Dyfarniad y Llys”

Darlith gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Lloyd-Jones,

Barnwr y Goruchaf Lys.

Cefnogir gan y Bwrsari Cyril O Jones

8fed o Dachwedd, 2024

2.00pm - 3.00pm

Darlithfa Nick Whitehead

Campws Plas Coch, Prifysgol Wrecsam

Mae’n anrhydedd mawr i Brifysgol Wrecsam dderbyn yr Arglwydd David Lloyd-Jones, Barnwr Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig, i gyflwyno darlith yn canolbwyntio ar sut mae dyfarniadau’n cael eu gwneud a’u cyflwyno, yn enwedig mewn llysoedd apêl

Mae cofrestru'n hanfodol ar gyfer y ddarlith hon ac mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael.

Cofrestrwch i fynychu

Barnwr y Goruchaf Lys, Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Lloyd-Jones

Ganed a magwyd David Lloyd-Jones, Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Lloyd-Jones, ym Mhontypridd, Morgannwg lle bu ei dad yn athro ysgol. Mynychodd Ysgol Ramadeg y Bechgyn Pontypridd a Choleg Downing, Caergrawnt. Roedd yn Gymrawd Coleg Downing o 1975 i 1991. Yn y Bar roedd ei ymarfer yn cynnwys cyfraith ryngwladol, cyfraith yr UE a chyfraith gyhoeddus. Roedd yn amicus curiae (eiriolwr i'r llys) yng nghyfreitha Pinochet gerbron Tŷ'r Arglwyddi.

Yn siaradwr Cymraeg, penodwyd yr Arglwydd Lloyd-Jones i’r Uchel Lys yn 2005. Rhwng 2008 a 2011 gwasanaethodd fel Barnwr Llywyddol ar Gylchdaith Cymru a Chadeirydd Pwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg. Yn 2012 fe’i penodwyd yn Arglwydd Ustus Apêl ac o 2012 i 2015 ef oedd Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith. Fe’i penodwyd yn Llywydd cyntaf Cyngor Cyfraith Cymru ym mis Hydref 2021.

Gwasanaethodd yr Arglwydd Lloyd-Jones fel Barnwr y Goruchaf Lys am y tro cyntaf rhwng mis Hydref 2017 a mis Ionawr 2022. Ef oedd Barnwr y Goruchaf Lys cyntaf i ddod o Gymru. Ymddiswyddodd fel Barnwr ar 13 Ionawr 2022 ar ôl cyrraedd yr oedran ymddeol gorfodol o 70 ar y pryd. Ar ei ymddeoliad penodwyd yr Arglwydd Lloyd-Jones i Banel Atodol y Goruchaf Lys. Yn dilyn codi’r oedran ymddeol gorfodol ar gyfer deiliaid swyddi barnwrol o 70 i 75 ym mis Mawrth 2022, gwnaeth yr Arglwydd Lloyd-Jones gais llwyddiannus i gael ei ailbenodi’n Farnwr.  

Os cewch drafferth archebu ar gyfer y digwyddiad hwn, rhowch wybod i [email protected]

Built with